Cynllun Hyfforddeion Cyfreithiol Cenedlaethol – Cyfreithiwr – Ionawr 2025 (dechrau Hydref 2026)

Crown Prosecution Service

Apply before 1:00 pm on Thursday 6th February 2025

 

Details

Reference number

384831

Salary

£29,620 - £33,200
£29,620 - £31,350 (National) £31,030 - £33,200 + £3,150 RRA (London)
A Civil Service Pension with an employer contribution of 28.97%

Job grade

Executive Officer
B1

Contract type

Fixed term

Length of employment

2 Years

Type of role

Legal Services

Working pattern

Flexible working, Full-time, Part-time

Number of jobs available

40

Contents

Cardiff, Mold, Swansea

Job summary

A ydych chi’n ddarpar gyfreithiwr sydd â diddordeb mewn cyfraith trosedd? Gwnewch gais am gynllun hyfforddeion cyfreithiol Gwasanaeth Erlyn y Goron nawr a chychwyn ar eich llwybr hyfforddi ym mis Hydref 2026.

 

Yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron, rydym yn gyfrifol am weinyddu cyfiawnder drwy erlyn trosedd yn annibynnol ac yn effeithiol. Ni yw’r cyflogwr arbenigwyr cyfraith droseddol mwyaf yng Nghymru a Lloegr, ac mae Universum wedi ein gosod ymysg y cyflogwyr mwyaf atyniadol i fyfyrwyr y gyfraith. Rydym yn falch o gael ein cydnabod gan ein hyfforddeion cyfreithiol yn arolwg Legal 500 Future Lawyers 2023 am ein technoleg gyfreithiol, am fodlonrwydd mewn swydd a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

 

Fel cyfreithiwr dan hyfforddiant, rydym yn cynnig ichi raglen hyfforddi ddwy flynedd a rôl barhaol fel erlynydd y goron ar ôl cwblhau ein cynllun hyfforddeion cyfreithiol yn llwyddiannus. Cewch eich cefnogi gan oruchwyliwr hyfedr a fydd yn cynnig arweiniad a chyfleoedd i ddatblygu eich dealltwriaeth o weithio fel erlynydd. Byddwch yn cael o leiaf un secondiad mewn maes y tu allan i gyfraith trosedd, ac yn cwblhau cyrsiau mewn sgiliau erlyn rhagweithiol, datgelu, eiriolaeth, driliau eiriolaeth cam-drin domestig, a chymhwyster erlynydd cyswllt wedi’i reoleiddio gan CiLEX ar gyfer hawliau i ymddangos yn y llys, gan eich galluogi i gyflwyno’n annibynnol yn y llys.

 

Gallwch ddatblygu eich gwybodaeth drwy weithio mewn meysydd trosedd arbenigol gan gynnwys troseddau rhywiol difrifol a threisio, troseddu cyfundrefnol a thwyll. Rydym wedi ymrwymo i’ch twf proffesiynol ac rydym yn disgwyl y byddwch, yn dilyn eich rôl gychwynnol yn y llys ynadon, wedi meithrin y sgiliau angenrheidiol i wneud cais am gyfleoedd am ddyrchafiad yn Llys y Goron gan gynnwys rôl uwch erlynydd y goron.

 

Cewch glywed gan ein hyfforddeion cyfreithiol yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron, www.cps.gov.uk/careers/legal-trainee.

 

Ar hyn o bryd mae gennym ddwy hysbyseb yn fyw, un ar gyfer rôl bargyfreithiwr dan hyfforddiant ac un ar gyfer rôl cyfreithiwr dan hyfforddiant. Dim ond ar gyfer un o'r swyddi gwag hyn y gallwch gyflwyno cais. Os byddwch yn gwneud cais am y ddwy swydd, neu am yr un swydd fwy nag unwaith, byddwn ond yn derbyn cais am y swydd gyntaf y gwnaethoch gais amdani a byddwn yn gwrthod yr ail yn awtomatig.

 

Yn ogystal, mae gennym ddwy hysbyseb yn fyw ar gyfer siaradwyr Cymraeg, os ydych yn ddarpar fargyfreithiwr neu gyfreithiwr sy’n siarad Cymraeg, rydym yn eich annog i wneud cais dan un o'r hysbysebion hynny.

Job description

Mae ein cynllun hyfforddeion cyfreithiol yn rhaglen hyfforddi helaeth i’ch helpu i ddod yn gyfreithiwr cwbl gymwys. Byddwch yn ennill profiad gwerthfawr ym mhob maes o gyfraith trosedd, o adolygu achosion a pharatoi cyngor cyn cyhuddo i gyfarfod gyda dioddefwyr a thystion. Byddwch yn sicr o gael swydd barhaol fel erlynydd y goron ar ôl cwblhau eich cyfnod prawf yn llwyddiannus.

Person specification

Rydym yn chwilio am bobl sy’n meddu ar y canlynol:

  • diddordeb amlwg ym maes erlyn troseddol a gwasanaeth cyhoeddus
  • gwybodaeth a dealltwriaeth amlwg o waith Gwasanaeth Erlyn y Goron a’n rôl yn y system cyfiawnder troseddol ehangach
  • ffocws cryf ar ddysgu parhaus a'r gallu i gymhwyso gwybodaeth am y gyfraith trosedd a gafwyd o astudio a phrofiad
  • ymrwymiad i yrfa fel cyfreithiwr sy’n gweithio ym maes cyfraith trosedd yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron

 

Eich rôl a’ch cyfrifoldebau

  • Paratoi i erlyn achosion ar droseddau diannod yn unig a throseddau neillffordd yn y llys ynadon gan weithio gyda gweithwyr achos, cwrdd â thystion, a chefnogi’r cwnsler.
  • Cynghori’r heddlu ac ymchwilwyr eraill ar benderfyniadau ynghylch cyhuddo, a gweithio gyda phartneriaid cyfiawnder troseddol, cyfreithwyr yr amddiffyniad a’r cwnsler ar waith achos.
  • Cysgodi erlynwyr yn Llys yr Ynadon a Llys y Goron ac arsylwi ar eiriolaeth.
  • Mynychu cynadleddau gyda’r heddlu a’r cwnsler, a chyfarfodydd gyda dioddefwyr a thystion.
  • Cynnal ymchwil gyfreithiol a rhoi adborth i’ch goruchwyliwr cyfreithiol a chydweithwyr eraill.
  • Gweithio gyda goruchwyliwr drwy gydol cyfnod prawf, gan gadw cofnodion cywir o waith a chyfarfodydd i drafod cynnydd eich hyfforddiant.
  • Trefnu a chwblhau eich secondiadau gwaith gofynnol.

Qualifications

Cymwysterau

Gradd israddedig
Rhaid i chi fod â gradd israddedig prifysgol 2:2 neu uwch. Nid oes angen i hon fod yn y gyfraith, rydym yn ystyried graddau israddedig cyfatebol.

Os ydych wedi cwblhau’r Cwrs Ymarfer y Gyfraith a bod gennych radd israddedig 2:2 neu uwch mewn pwnc ar wahân i'r gyfraith, rhaid ichi fod wedi cwblhau un o'r cyrsiau trosi canlynol:
• Diploma Graddedig yn y Gyfraith (GDL)
• Arholiad Proffesiynol Cyffredin (CPE)
Os ydych chi wedi dewis y llwybr Arholiad Cymhwyso i Gyfreithwyr, nid oes angen cwrs trosi. Rydym yn derbyn graddau nad ydynt yn y gyfraith gyda chanlyniadau llwyddiannus yn yr Arholiad Cymhwyso i Gyfreithwyr 1 a 2, heb y GDL na’r CPE.

Cymwysterau ôl-raddedig
Rhaid i chi fod wedi cwblhau, neu fod ar fin cwblhau, y Cwrs Ymarfer y Gyfraith neu Arholiadau Cymhwyso i Gyfreithwyr 1 a 2 er mwyn gallu dechrau’r cynllun hyfforddeion cyfreithiol ym mis Hydref 2026.

Rhaid i chi ddarparu eich cymwysterau i’n tîm recriwtio erbyn 1 Medi 2026. Os na allwch roi cadarnhad eich bod wedi pasio eich LPC neu’ch SQE erbyn hyn, cewch eich tynnu allan o’r broses.

Nid ydym yn derbyn CILEX yn lle’r cymhwyster LPC neu SQE.

Nid yw Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cynnig nawdd ar gyfer cymwysterau galwedigaethol. Byddwn yn gwirio’r holl dystysgrifau a’r cymwysterau academaidd os cewch eich gwahodd i gwblhau cyfweliad fideo ar-lein.

Eich cyfrifoldeb chi yw darparu tystiolaeth ategol o gymhwysedd academaidd o fewn y dyddiad cau.

Os na fyddwch yn cynnwys eich cymwysterau israddedig ac ôl-raddedig ar eich ffurflen gais, ni fyddwch yn bodloni’r meini prawf cymhwyso a byddwch yn cael eich tynnu o’r broses recriwtio.

Behaviours

We'll assess you against these behaviours during the selection process:

  • Making Effective Decisions
  • Seeing the Big Picture
  • Delivering at Pace
  • Communicating and Influencing

Technical skills

We'll assess you against these technical skills during the selection process:

  • Gradd israddedig
  • Cymwysterau ôl-raddedig
Alongside your salary of £29,620, Crown Prosecution Service contributes £8,580 towards you being a member of the Civil Service Defined Benefit Pension scheme. Find out what benefits a Civil Service Pension provides.

Gwarantir swydd fel naill ai erlynydd y goron neu eiriolwr y goron ichi ar ôl cwblhau eich cynllun hyfforddeion cyfreithiol yn llwyddiannus.

 

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn frwd dros sicrhau ein bod ni’n sefydliad sy’n perfformio ar ei orau ac yn lle gwych i weithio. Rydym wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cyfle cyfartal ac i greu diwylliant lle gall pawb ddod â’i hunan yn gyflawn i’r gwaith, ac rydyn ni wir yn gwerthfawrogi unigoliaeth.

 

Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod ein holl weithwyr yn gallu ffynnu yn y gwaith ac yn y cartref, ac rydym yn cynnig amrywiaeth o gymorth i sicrhau cydbwysedd. Mae hyn yn cynnwys, lle bo modd, oriau gwaith hyblyg a hyblygrwydd i gefnogi cyfrifoldebau gofalu. Byddwch yn treulio eich wythnos waith naill ai yn y llys neu'r swyddfa i sicrhau eich bod yn cael y gorau o’ch goruchwyliwr a’ch hyfforddiant.

 

Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o fuddion: 

  • pensiwn cyfrannol y Gwasanaeth Sifil o hyd at 28.9% 
  • 25 diwrnod o wyliau bob blwyddyn, yn codi i 30 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth
  • diwrnod braint ychwanegol i nodi pen-blwydd y Brenin
  • absenoldeb cystadleuol o ran mamolaeth, tadolaeth ac absenoldeb rhieni
  • cynllun Seiclo i'r Gwaith, cynilion gweithwyr
  • hyd at £350 bob blwyddyn i'w wario ar ddatblygiad personol

Selection process details

This vacancy is using Success Profiles (opens in a new window), and will assess your Behaviours, Strengths, Ability, Experience and Technical skills.

Cam cyntaf – profion ar-lein a gwneud cais

Rhaid ichi gyflwyno eich ffurflen gais fer drwy Swyddi’r Gwasanaeth Sifil. Yna, fe’ch gwahoddir i gwblhau prawf sgiliau gwaith achos y Gwasanaeth Sifil a phrawf llafar y Gwasanaeth Sifil ar-lein.

 

Os byddwch yn methu naill ai’r prawf sgiliau gwaith achos neu’r prawf rhesymu llafar, caiff eich cais ei wrthod ac ni fyddwch yn gallu ailymgeisio. Caiff unrhyw geisiadau dyblyg eu gwrthod.

 

I gael rhagor o wybodaeth am brofion y Gwasanaeth Sifil ar-lein, ewch i Civil Service online tests - GOV.UK.

 

Os byddwch yn pasio’r profion hyn, cewch eich gwahodd i gyflwyno eich ffurflen gais lawn a’ch CV drwy Swyddi’r Gwasanaeth Sifil. Rhaid cyflwyno’r rhain erbyn 1pm ar 6 Chwefror 2025.

 

Mae angen i chi atodi eich CV fel un ddogfen ar ddim mwy na dwy dudalen A4. Ni fydd hwn yn cael ei asesu ond mae’n rhoi cipolwg i’r panel ar eich hanes gwaith a’ch profiad.

 

Dylai eich CV gynnwys:

  • hanes gyrfa a chyfrifoldebau allweddol
  • sgiliau a phrofiad
  • cyflawniadau
  • cymwysterau

 

Yn adran cymwysterau eich ffurflen gais, rhowch:

 

  • dosbarth eich gradd israddedig
  • eich Cwrs Ymarfer y Gyfraith a’ch cwrs trosi os yw eich gradd israddedig mewn pwnc ar wahân i'r gyfraith, neu’r Arholiad Cymhwyso i Gyfreithwyr. Dylech ddewis ‘arall’ o dan deitl y cymhwyster.

 

Ail gam – cyfweliad fideo

Os byddwch yn pasio’r cam recriwtio cyntaf, cewch eich gwahodd i gyfweliad fideo. Anfonir gwahoddiadau i’r cyfweliadau fideo ar wahân yn uniongyrchol gan ein tîm recriwtio. Anfonir y rhain rhwng 6 a 7 Chwefror 2025 – cewch ganllawiau a chyfarwyddiadau llawn ar gyfer y broses cyfweliad fideo gyda’ch gwahoddiad.

 

Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch ar gyfer y cyfweliad fideo, cysylltwch â earlycareers@cps.gov.uk erbyn 1pm ar 6 Chwefror 2025.

 

Mae’n bosibl na fydd unrhyw gais ar ôl y dyddiad hwn yn cael ei ystyried.

 

Gallwch ddefnyddio’r system cyfweliad fideo rhwng 10 a 14 Chwefror 2025 ac mae’n rhaid i chi fod wedi cwblhau a chyflwyno eich cyfweliad fideo erbyn 1pm ar 14 Chwefror 2025.

 

Rydym am ddeall pam eich bod eisiau gweithio yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron. Rydym yn asesu eich cymhelliant a'ch cryfderau yn y cam hwn i weld pa mor addas ydych chi ar gyfer y rôl.

 

Mae’r panel yn cadw’r hawl i farcio’r cryfder arweiniol yng ngham y rhestr fer a chodi’r marc pasio safonol sylfaenol ar gyfer y cryfder hwn yn y cam hwn o’r broses ddethol.

 

Trydydd cam – cyfweliad terfynol ac asesiad

Os byddwch yn pasio ail gam y broses recriwtio, fe’ch gwahoddir i asesiad a chyfweliad gyda phanel Gwasanaeth Erlyn y Goron. Cewch ganllawiau a chyfarwyddiadau llawn am y broses hon gyda’ch gwahoddiad.

 

Cynhelir y cyfweliadau rhwng 10 Mawrth a 4 Ebrill 2025 drwy Microsoft Teams.

 

Fe’ch gwahoddir i drefnu slot cyfweliad ar ein system archebu ar-lein ar 4 Mawrth 2024 o 1pm ymlaen.

 

Gofynnwn i chi nodi’r dyddiadau y mae’r cyfweliad a’r asesiadau i fod i gael eu cynnal. Fodd bynnag, gall y dyddiadau hyn newid, ac ni allwn warantu dyddiadau cyfweld gwahanol.

 

Meini prawf asesu – cam cyfweld ac asesu

Byddwch yn cael eich asesu yn erbyn meini prawf ymddygiad y Gwasanaeth Sifil yn yr asesiad cyfreithiol a’r cyfweliad. Mae angen i chi ystyried eich sgiliau personol, eich rhinweddau, eich profiad a sut mae’r rhain yn cyd-fynd â’r ymddygiadau a’r gofynion penodol fel y nodir yn y disgrifiad swydd. Mae angen i chi hefyd ddangos gwerthoedd Gwasanaeth Erlyn y Goron neu’r Gwasanaeth Sifil.

 

Dyma’r ymddygiadau sy’n cael eu hasesu:

  • gwneud penderfyniadau effeithiol
  • gweld y darlun ehangach
  • cyflawni'n gyflym
  • cyfathrebu a dylanwadu

 

Mae’r panel yn cadw’r hawl i asesu’r prif ymddygiad (gwneud penderfyniadau effeithiol) yng ngham y cyfweliad a'r asesiad a chodi’r marc pasio safonol sylfaenol ar gyfer yr ymddygiad hwn yn y cam hwn o’r broses ddethol.

Addasiadau rhesymol

Mae amrywiaeth yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron yn ymwneud â chynhwysiant, croesawu gwahaniaethau a sicrhau bod ein gweithlu wir yn adlewyrchu’r cymunedau a wasanaethwn. Rydym eisiau i’n pobl deimlo eu bod yn perthyn a’u bod yn gallu ffynnu, beth bynnag fo’u cefndir, eu hunaniaeth neu eu diwylliant.

 

Fel cyflogwr hyderus o ran anabledd, rydym yn hapus i gefnogi ceisiadau am addasiadau rhesymol a gwella eich profiad o’r broses recriwtio. Os hoffech chi i unrhyw addasiadau rhesymol gael eu gwneud i’n proses recriwtio, rhowch wybod i ni ar eich cais neu cysylltwch ag earlycareers@cps.gov.uk i drafod hyn gyda’n tîm.

 

Mae un rhan o’r prawf seicometrig ar gyfer gwaith achos yn cael ei hamseru a rhaid ei chwblhau o fewn 10 munud. Ni allwn wneud unrhyw addasiadau i brofion seicometrig y Gwasanaeth Sifil. Os cewch eich gwahodd i’r asesiad cyfreithiol a’r cyfweliad terfynol, rydym yn ystyried pob cais am addasiadau rhesymol yn unol â’n polisi.

Lleoliadau

Mae’r swyddi hyn ar gael yn genedlaethol. Gofynnir i chi gadarnhau’r lleoliad lle byddai’n well gennych gael eich lleoli. Rydym yn gwneud cynigion yn nhrefn teilyngdod ac yn ceisio cynnig y lleoliad o’ch dewis. Fodd bynnag, allwn ni ddim gwarantu hyn.

 

Dim ond yn yr un lleoliad y gallwch chi gael eich hyfforddiant - yr un rydych yn ei dderbyn pan gynigir eich swydd ichi. Yma bydd eich goruchwyliwr yn cael ei neilltuo ichi gydol eich hyfforddiant. Ni allwn wneud newidiadau ar ôl i chi dderbyn swydd nac yn ystod eich swydd.  

 

Rhestrwch eich tri lleoliad mwyaf dymunol ar eich ffurflen gais yn y drefn yr ydych yn eu ffafrio.

 

Os ydych yn llwyddiannus, fe allwch gael eich lleoli yn unrhyw un o’r lleoliadau a hysbysebir – mae’n bosibl y bydd y rhain yn newid. Mae’r lleoliad terfynol a gynigir i chi yn adlewyrchu anghenion busnes y sefydliad.

 

Fel rhan o'r hyfforddiant i gyfreithwyr mae gofyn ichi fod yn bresennol yn y llys neu’r swyddfa yn y lleoliad daearyddol lle cewch eich lleoli. Mae angen ichi wneud cyrsiau rheolaidd i gwblhau eich cyfnod hyfforddi, gan gynnwys aros dros nos o dan y cod teithio a chynhaliaeth. Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd sydd wedi ymrwymo i wneud addasiadau rhesymol i’ch helpu i fod yn bresennol yn y llys neu yn eich swyddfa bob dydd.

 

Rydym yn ystyried ceisiadau am weithio hyblyg, rhan-amser a rhannu swydd – gan ystyried anghenion gweithredol yr adran. 

 

Sesiynau gwybodaeth

Rydym yn cynnal cyfres o sesiynau gwybodaeth cyn y dyddiadau cau ar gyfer y swyddi gwag hyn. Mae'r sesiynau'n sgyrsiau byw ar y we lle gallwch ofyn unrhyw gwestiynau i ni am eich cais, y broses neu'r rolau. Gallwch chi gofrestru yma.

 

Cymhwysedd

Os byddwch yn gwneud cais ac os canfyddir yn ddiweddarach nad ydych yn bodloni'r meini prawf academaidd, cenedligrwydd neu fewnfudo, byddwch yn cael eich tynnu o'r broses ddethol. Mae cynigion cyflogaeth amodol yn cael eu tynnu’n ôl os nad yw ymgeiswyr yn bodloni’r gofynion hyn.

 

Os ydych eisoes wedi cwblhau eich cyfnod o hyfforddiant cydnabyddedig gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron, nid ydych yn gymwys i wneud cais.

 

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb, gan gynnwys grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli yn ein gweithlu ar hyn o bryd, ac rydym yn ymfalchïo ein bod yn gyflogwr o ddewis. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle - Wythnos Gynhwysiant Genedlaethol , Gwasanaeth Erlyn y Goron

 

Cliriad

Os ydych yn llwyddiannus, mae’n ofynnol ichi gael cliriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac mae rhai rhannau o’r busnes yn gofyn ichi gael cliriad Archwiliad Diogelwch (SC). Caiff y cliriad sydd ei angen arnoch ei gadarnhau pan fyddwch yn cael cynnig y rôl.

 

Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, gofynnwn i chi lenwi ffurflen ymholi am gymeriad a’r holiadur cenedligrwydd a mewnfudo.

Os ydych yn aelod mewnol o staff, ni fydd angen i chi gael gwiriad DBS gan fod gennych chi’r cliriad hwn yn barod.

 

Rhestr wrth gefn

Os ydych yn cael eich argymell gan y panel dethol ond heb gael eich penodi i’r swydd wag bresennol, cewch eich rhoi ar restr wrth gefn am 12 mis rhag ofn y bydd rhagor o swyddi gwag yn codi. Nid oes sicrwydd y cewch gynnig swydd yn ystod yr amser hwn.

 

Costau teithio ychwanegol

Nid yw costau teithio ychwanegol yn berthnasol. Chi sy’n gyfrifol am dalu eich costau teithio i’r lleoliad gwaith o’ch dewis.

 

Archwiliadau twyll

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn darparu Hysbysiad Prosesu Teg i bob ymgeisydd newydd ar ôl iddynt fod yn llwyddiannus yn y cyfweliad. Rhoddir gwybod i’r ymgeiswyr hyn, fel un agwedd ar sgrinio cyn cyflogi, bod eu manylion personol – enw, rhif Yswiriant Gwladol a dyddiad geni – yn cael eu gwirio yn erbyn y Gronfa Ddata Bygythiadau Mewnol. Ni fyddwn yn cyflogi unrhyw un sydd wedi’i gynnwys ar y gronfa ddata oni bai eu bod yn gallu dangos amgylchiadau eithriadol. 

 

Gweision sifil presennol

Mae gan Wasanaeth Erlyn y Goron gyfraddau sefydlog ar gyfer gradd ei Swyddog Gweithredol - cyfradd datblygu (y cyflog cychwynnol) a a'r gyfradd gyfredol (y gyfradd flynyddol ac uchafswm cyflog y swydd). Mae ymgeiswyr fel arfer yn ymuno â ni ar y gyfradd ddatblygu.

 

Sylwch y gellir addasu eich cyflog pan fydd newid yn y lleoliad cyflog daearyddol wrth ymuno â'r rhaglen. Gall hyn gynnwys addasiad ar gyfer unrhyw lwfansau presennol yr ydych yn eu derbyn gan nad oes sicrwydd y gellir cadw'r rhain.  Dylech felly wneud ymholiadau am yr effaith ar eich cyflog cyn gwneud cais am le ar y rhaglen neu dderbyn lle ar y rhaglen.

Comisiynwyr y Gwasanaeth Sifil
Os ydych chi’n anfodlon â’r broses recriwtio a’ch bod yn dymuno cwyno, cysylltwch â strategic.resourcing@cps.gov.uk gyda’ch pryderon. 
 
Os ydych yn dal yn anfodlon ac yn dymuno gwneud cwyn arall, gallwch wneud hynny drwy dudalen gwyno Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.  

 

Dyma egwyddorion recriwtio Comisiynwyr y Gwasanaeth Sifil. 


Dim ond os byddwch chi’n dod i gyfweliad y byddwch chi’n cael adborth.

 

Diogelwch

Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol.

Rhaid i bobl sy’n gweithio gydag asedau’r llywodraeth gwblhau gwiriadau Safon Ddiogelwch Sylfaenol ar gyfer Personél (yn agor mewn ffenestr newydd.

Gweler ein siarter fetio (yn agor mewn ffenestr newydd).



Feedback will only be provided if you attend an interview or assessment.

Security

Successful candidates must undergo a criminal record check.
People working with government assets must complete baseline personnel security standard (opens in new window) checks.

Nationality requirements

This job is broadly open to the following groups:

  • UK nationals
  • nationals of the Republic of Ireland
  • nationals of Commonwealth countries who have the right to work in the UK
  • nationals of the EU, Switzerland, Norway, Iceland or Liechtenstein and family members of those nationalities with settled or pre-settled status under the European Union Settlement Scheme (EUSS) (opens in a new window)
  • nationals of the EU, Switzerland, Norway, Iceland or Liechtenstein and family members of those nationalities who have made a valid application for settled or pre-settled status under the European Union Settlement Scheme (EUSS)
  • individuals with limited leave to remain or indefinite leave to remain who were eligible to apply for EUSS on or before 31 December 2020
  • Turkish nationals, and certain family members of Turkish nationals, who have accrued the right to work in the Civil Service
Further information on nationality requirements (opens in a new window)

Working for the Civil Service

The Civil Service Code (opens in a new window) sets out the standards of behaviour expected of civil servants.

We recruit by merit on the basis of fair and open competition, as outlined in the Civil Service Commission's recruitment principles (opens in a new window).
The Civil Service embraces diversity and promotes equal opportunities. As such, we run a Disability Confident Scheme (DCS) for candidates with disabilities who meet the minimum selection criteria.
The Civil Service also offers a Redeployment Interview Scheme to civil servants who are at risk of redundancy, and who meet the minimum requirements for the advertised vacancy.

Diversity and Inclusion

The Civil Service is committed to attract, retain and invest in talent wherever it is found. To learn more please see the Civil Service People Plan (opens in a new window) and the Civil Service Diversity and Inclusion Strategy (opens in a new window).
This vacancy is part of the Great Place to Work for Veterans (opens in a new window) initiative.
Once this job has closed, the job advert will no longer be available. You may want to save a copy for your records.

Contact point for applicants

Job contact :

  • Name : Early Careers
  • Email : Earlycareers@cps.gov.uk

Recruitment team

  • Email : Earlycareers@cps.gov.uk

Share this page